Papur Tystiolaeth

 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Dyddiad: 5 Mawrth 2015

Amser: 9:30 – 10:30

Lleoliad: Senedd

 

Teitl: Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

 

Diben

 

Darparu papur tystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r papur tystiolaeth yn darparu tystiolaeth ychwanegol i ategu’r papur a ddarparwyd gan y Prif Swyddog Nyrsio.

 

Yn y papur tystiolaeth hwn:

 

•           defnyddir “y GIG yng Nghymru” i gyfeirio at fyrddau iechyd lleol y GIG ac ymddiriedolaethau’r GIG

•           ystyr “ward acíwt’ yw wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt ar gyfer oedolion sy’n gleifion mewnol

•           ystyr “sefydliad nyrsio” yw cyfanswm y staff a ddyrannwyd i weithio ar ward

 

Cyffredinol

 

Yr angen am ddeddfwriaeth sy’n gwneud darpariaeth ynghylch lefelau diogel staff nyrsio

 

1.    Mae Llywodraeth Cymru’n cytuno’n llwyr fod angen lefelau staffio diogel ac mae eisoes wedi rhoi nifer o fentrau polisi ar waith i gyflawni’r nod hwn o ran nyrsio a phroffesiynau eraill, a hynny er mwyn gwella’r canlyniadau i gleifion o dan y pwerau presennol.

 

2.    Yng Nghymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG sy’n gyfrifol am bennu gweithlu diogel â sgiliau priodol, a hynny oherwydd bod ganddynt awdurdod statudol i ymateb i anghenion y boblogaeth a wasanaethir ganddynt.

 

3.    Mae’r ffactorau sy’n ategu’r fframwaith penderfynu ar gyfer lefelau staffio diogel yn gymhleth ac aethpwyd ati i lunio ‘Canllawiau Egwyddorion Staff Nyrsio Cymru’ i gydnabod y ffaith honno. Nid yw Llywodraeth Cymru erioed wedi pennu cymarebau gofynnol gorfodol rhwng nyrsys cofrestredig a gweithwyr cymorth gofal iechyd na phennu niferoedd gofynnol o staff fesul gwely claf mewnol, a hynny’n fwriadol. Fodd bynnag, gan gydweithio â’r Byrddau Iechyd Lleol, cytunwyd ar yr egwyddorion hyn ac i gyflwyno offeryn aciwtedd fel mesur interim, hyd nes i’r offeryn aciwtedd gael ei ddilysu’n llwyr.

 

4.    Mae’r offeryn aciwtedd ar gyfer oedolion yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth; mae’n mesur aciwtedd a dibyniaeth cleifion ac mae’n helpu i bennu’r sefydliad nyrsio priodol ar gyfer yr ardal glinigol. Mae aciwtedd yn disgrifio pa mor sâl yw’r claf ac mae dibyniaeth yn disgrifio faint o ofal nyrsio sydd ei angen arno. Felly, mae’n offeryn a ddefnyddir i flaen-gynllunio yn hytrach nag i bennu’r amserlen staffio o ddydd i ddydd. Bydd y gwaith o ddilysu’r offeryn yn dod i ben cyn bo hir ac yna bydd yn cael ei roi ar waith yn llwyr ar draws GIG Cymru. Mae staff yn defnyddio dull trionglog sy’n cynnwys yr offeryn aciwtedd, barn broffesiynol a dangosyddion nyrs-sensitif i ddarparu lefelau staffio diogel. Mae hwn yn ddull mwy ymatebol ac effeithiol na phennu niferoedd penodol o staff wedi’u diffinio’n gaeth.

 

5.    Mae ymchwil yn tynnu sylw at bwysigrwydd mentrau ansawdd a thystiolaeth gadarn am effeithiolrwydd lefelau staff nyrsio a bennir ar sail dangosyddion am ganlyniadau ansawdd i gleifion / dangosyddion nyrs-sensitif. Mae Trawsnewid Gofal yn enghraifft o fenter ansawdd a gyflwynwyd yng Nghymru o dan y rhaglen wella 1000 o Fywydau. Mae wedi sicrhau buddion sylweddol o ran trefniadaeth wardiau, rheolaeth a gofal o safon i gleifion, gan ddefnyddio dangosyddion am ganlyniadau cleifion / dangosyddion nyrs-sensitif.

 

6.    Mae’r Bil yn rhoi gormod o bwyslais ar adroddiadau gan Weinidogion Cymru sy’n seiliedig ar restr o ddangosyddion, gan fwrw cysgod dros gyfrifoldeb y GIG yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau diogel yn cael eu darparu, i asesu’r ddarpariaeth honno ac i adrodd amdani.

 

7.    Mae’r offerynnau a’r dulliau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u defnyddio eisoes yn mynd gam o’r ffordd at fodloni nodau’r Bil. Byddai modd eu cryfhau ymhellach, er enghraifft, drwy beri iddi fod yn ofynnol defnyddio’r offeryn aciwtedd pan fydd wedi’i ddilysu’n llwyr.

 

8.    Yn ddibynnol ar argymhellion y Pwyllgor, mae’r Llywodraeth yn credu y bydd angen diwygio’r ddeddfwriaeth fel y’i cyflwynwyd i ychwanegu gwerth at y cyfeiriad polisi cyfredol.

 

Cyflawni pwrpas cyffredinol y Bil

 

9.    Nid yw Llywodraeth Cymru’n bwriadu pennu unrhyw fath o gymarebau gofynnol ar gyfer y GIG yng Nghymru gan fod y dystiolaeth yn dangos bod y maes hwn yn llawer rhy gymhleth i ddefnyddio dull sy’n ei fynegi mewn termau mor syml. Drwy weithio mewn partneriaeth â GIG Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dull trionglog i’w roi ar waith gan sefydliadau’r GIG. Mae’n seiliedig ar ddefnyddio’r offeryn aciwtedd, barn broffesiynol a dangosyddion nyrs-sensitif.

 

10. Mae’r Bil yn canolbwyntio ar staff nyrsio yn unig, ond mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i integreiddio gofal ar draws y proffesiynau a’r sectorau. Mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio’i bolisi gofal fel cam tuag at fframwaith iechyd a gofal cymdeithasol integredig, gydag anghenion cleifion wrth galon y gwaith o ddarparu gwasanaethau, fel y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei ddangos. I ddefnyddio’r dull integredig hwn, mae angen gweithio ar sail amlddisgyblaeth ac amlbroffesiwn, gyda phob proffesiwn yn defnyddio’i sgiliau pan fydd eu hangen ar y claf. Mae’n ceisio rhoi terfyn ar wahanu swyddi mewn modd di-fudd.

 

Y rhwystrau rhag rhoi darpariaethau’r Bil ar waith

 

11. Mae’r trefniadau adrodd ar gyfer Llywodraeth Cymru fel y’u nodir yn y Bil yn rhwystr sylweddol oherwydd nad yw llawer o’r dulliau adrodd presennol yn cydweddu â’r gofynion hyn ar hyn o bryd, o ran strwythur y dull adrodd ac o ran amlder yr adroddiadau. Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio’n glir pam y tybir bod angen adrodd bob dwy flynedd. Mae Llywodraeth Cymru’n tybio ei bod yn fwy effeithlon ac effeithiol o ran cost i ddilyn y cylch cynllunio tair blynedd y mae’r Byrddau Iechyd Lleol eisoes yn ei ddefnyddio er mwyn i amlder yr adroddiadau ymateb yn briodol i’r patrymau sy’n dod i’r amlwg yn y data. Mae fframwaith cynllunio’r GIG, sy’n dilyn cylch tair blynedd, yn cefnogi’r gwaith o baratoi Cynlluniau Tymor Canolig Integredig ac mae’n ofynnol i’r Byrddau Iechyd Lleol ac i Ymddiriedolaethau’r GIG eu paratoi. Mae Fframwaith Cynllunio’r GIG yn symleiddio ac yn egluro’r gofynion cynllunio a’r broses gynllunio o fewn GIG Cymru. Mae’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig yn cynnwys gwybodaeth sy’n cefnogi cyfrifiad/asesiad y lefelau staffio, ond nid yw’r data hynny ar eu ffurf bresennol yn adrodd am bob un o’r dangosyddion a nodir yn adran 3(5)(a) i (i) o’r Bil.

 

12. Ar hyn o bryd, mae’r gwaith o gasglu data i gefnogi adroddiadau’n cael ei lywio gan wahanol systemau rheoli gwybodaeth o fewn GIG Cymru. Yn yr un modd â systemau casglu data eraill, i adrodd yn gywir am y Bil, byddai angen addasu’r dulliau presennol o gasglu data’n sylweddol, a byddai hefyd angen sicrhau ansawdd o lefel wardiau ysbytai i fyny.

 

13. Mae’r Memorandwm Esboniadol, paragraff 220, yn cydnabod tystiolaeth gan y Coleg Nyrsio Brenhinol nad yw systemau TGCh y Byrddau Iechyd Lleol yr un fath. Serch hynny, mae’n awgrymu na fyddai angen newid y systemau hyn er mwyn rhoi’r Bil ar waith. Mae Llywodraeth Cymru’n credu y byddai angen cyflawni asesiad llawn o’r effaith ar y systemau presennol oherwydd na chawsant eu llunio i adrodd am y dangosyddion a nodir yn y Bil; yn hytrach, fe’u lluniwyd i gasglu gwybodaeth am gleifion neu wybodaeth at ddibenion eraill. Byddai angen i’r asesiad bennu sut i sicrhau bod data’n cael eu casglu ar lefel ward, eu bod yn gyson, bod eu hansawdd yn cael ei sicrhau, a’u bod yn cael eu triongli’n llwyr o ran y dangosyddion a nodir yn adran 3(5). Fodd bynnag, nid dim ond mater o gasglu gwybodaeth ac adrodd arni yw hwn; mae mater ehangach o ran dadansoddi’r data er mwyn eu deall. Nid yw’r systemau sydd ar gael yn y GIG wedi’u llunio i gefnogi’r math o ddadansoddiad manwl y byddai ei angen, ac ni fwriedir iddynt wneud hynny. Nid oes arbenigwyr yn eu lle ar hyn o bryd ychwaith, naill ai yn y Byrddau Iechyd Lleol neu yn Llywodraeth Cymru, i ddeall y data crai at ddibenion y Bil.

 

14. Lefelau diogel staff nyrsio. Byddai angen dadansoddi unrhyw ddata a gesglir yn ofalus ac yn fanwl i ddeall unrhyw gysylltiad achosol rhwng y wybodaeth am ganlyniadau cleifion a lefel y staff nyrsio. Oherwydd nad oes sylfaen dystiolaeth ar gael i gadarnhau unrhyw gysylltiadau achosol uniongyrchol rhwng y staff nyrsio a’r dangosyddion a restrwyd am ganlyniadau’r cleifion, byddai angen i’r dadansoddiad hwn osod sylfaen dystiolaeth o’r fath er mwyn iddo fod yn ddilys. Er enghraifft, gall claf gael gofal mewn ysbyty a gall gael anaf neu salwch gwahanol ar ôl ei ryddhau sy’n golygu bod rhaid ei aildderbyn. Byddai’n hollol anghywir cysylltu’r lefelau staffio ar un neu ragor o’r wardiau pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty’n wreiddiol â’r rheswm dros ei aildderbyn. Byddai’n anghywir awgrymu mai dim ond at lefelau’r staff nyrsio y gellir cysylltu heintiau a gafwyd yn yr ysbyty. Mewn gwirionedd, mae angen ystyried llawer o ffactorau, fel: rhoi gwrthfiotig ar bresgripsiwn; cymhwysedd y staff o ran mesurau atal haint; hylendid dwylo’r holl staff; ymwelwyr yn dod â haint i’r ysbyty; glendid yr ardal glinigol; argaeledd a chymhwysedd y staff glanhau; cynllun yr ardal glinigol a’r ffordd y mae’n cael ei chynnal a’i chadw.

 

Canlyniadau anfwriadol sy’n deillio o’r Bil

 

15.  Dyma rai o’r canlyniadau anfwriadol sy’n deillio o’r Bil:

 

16.  Cyflwynwyd menter Gofal Iechyd Darbodus Llywodraeth Cymru yn 2014. Ei nod yw lleihau niwed y gellir ei osgoi; defnyddio’r ymyrraeth briodol leiaf bosibl; a hyrwyddo tegwch rhwng y bobl sy’n darparu a’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau. O ganlyniad i hyn, bydd angen ad-drefnu rhai o’r gwasanaethau presennol yn unol â’r gofynion newydd. O bennu cymhareb orfodol ar gyfer staff nyrsio, gallai lesteirio’r datblygiadau hyn oherwydd ei fod yn pennu nifer benodedig, anhyblyg o staff heb ganiatáu ar gyfer datblygu rôl a heb ystyried cyfraniad gweithwyr proffesiynol eraill at y gofal y mae cleifion yn ei gael ar y ward.

 

17. Cynyddodd y galw am nyrsys cofrestredig yn sgil mabwysiadu Egwyddorion y Prif Swyddog Nyrsio a’r Cyfarwyddwr Nyrsio, ynghyd â’r cyllid perthnasol a gyhoeddwyd i gefnogi gwaith nyrsys sy’n staffio wardiau acíwt ar gyfer oedolion mewn ysbytai. Un ffordd o liniaru effaith yr angen i fodloni lefel staffio ofynnol nad oes modd ei bodloni oherwydd anawsterau recriwtio fyddai cau gwelyau, gan leihau’r capasiti yn y lleoliad acíwt.

 

18. Pan fo mwy o alw am nyrsys cofrestredig, mae effaith y galw hwn yn golygu bod angen i gartrefi gofal gystadlu i recriwtio ac i gadw’u staff nyrsio hefyd. Ar ôl ymgynghori ar y Papur Gwyn ar Reoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi Bil a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad ar 23 Chwefror 2015. Bydd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn cynnig gofyniad newydd i’r awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru ystyried a chyhoeddi adroddiadau am sefydlogrwydd y sector gofal, yn awr ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am staffio, ac efallai y bydd modd ei defnyddio i helpu i liniaru canlyniad anfwriadol y Bil.

 

19. Gan fod y Bil hwn yn canolbwyntio ar staff nyrsio yn unig, un o’r canlyniadau posibl yw y bydd sefydliadau’r GIG yn tynnu’r adnoddau sy’n ariannu staff eraill, fel glanhawyr, yn eu hôl er mwyn ariannu’r gymhareb ofynnol orfodol o nyrsys. Gallai hyn roi pwysau ar nyrsys i gyflawni dyletswyddau ac eithrio nyrsio. Yn yr un modd, oherwydd bod y Bil yn canolbwyntio ar ysbytai acíwt i oedolion yn unig, un o’r canlyniadau posibl yw y bydd nyrsys cofrestredig yn cael eu tynnu o leoliadau eraill i fodloni’r gofyniad statudol.

 

20. Nid yw’r Bil yn cyfeirio at gymysgedd o raddau/profiad yn ei ofynion; mae’n canolbwyntio ar niferoedd y nyrsys yn unig. Felly, un o’r canlyniadau posibl yw gogwydd tuag at recriwtio nyrsys iau yn hytrach na nyrsys hŷn sy’n meddu ar sgiliau gwell ac uwch, a hynny oherwydd yr ystyrir eu bod yn rhy ddrud. O gael llai o brofiad a chymhwysedd yn y tîm nyrsio, bydd yn cael effaith sylweddol ar ansawdd y gofal a ddarperir i’r cleifion.

 

Darpariaethau’r Bil

 

Y ddyletswydd ar gyrff y gwasanaeth iechyd i roi sylw i bwysigrwydd sicrhau lefel briodol o staff nyrsio lle bynnag y mae gofal nyrsio’r GIG yn cael ei ddarparu o dan adran 10A(1)(a)

 

21. Mae fframwaith cyfreithiol a strwythur llywodraethu ar waith gan GIG Cymru i sicrhau bod holl gyrff y gwasanaeth iechyd yn cyflawni’u rhwymedigaethau a’u dyletswyddau. Mae dulliau cefnogi anneddfwriaethol ar waith hefyd, fel y llawlyfr e-lywodraethu sy’n cynorthwyo sefydliadau’r GIG i ddiffinio’u trefniadau llywodraethu, eu rhoi ar waith a’u cynnal. Mae’n rhoi cyfeiriad, canllawiau a chymorth i aelodau o fyrddau ac i staff y GIG i’w galluogi i gyflawni’u cyfrifoldebau ac i sicrhau bod eu sefydliadau’n bodloni’r safonau llywodraethu da a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru.

 

Y ddyletswydd ar gyrff y gwasanaeth iechyd i gymryd pob cam rhesymol i gynnal cymarebau gofynnol rhwng nyrsys cofrestredig a chleifion a chymarebau gofynnol rhwng nyrsys cofrestredig a gweithwyr cymorth gofal iechyd

 

22.  Defnyddiwyd tystiolaeth i lywio’r gwaith yng Nghymru i fabwysiadu methodoleg y dull trionglog wrth bennu lefelau staffio. Mae hyn yn herio effeithiolrwydd defnyddio cymhareb ‘ofynnol’. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad bwriadol i beidio â phennu cymarebau gofynnol ar gyfer lefelau’r staff nyrsio oherwydd na thybir bod hynny’n ymarferol nac yn ffordd effeithlon o ddefnyddio adnoddau.

 

23. Mae pennu cymarebau gofynnol rhwng nyrsys a chleifion a nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn ddull anhyblyg ac anymarferol iawn sy’n methu ag ystyried y ffordd y mae’r GIG yn gweithredu o ddydd i ddydd. Mae canllawiau diweddaraf NICE, Safe Staffing for Nursing in Adult Inpatient Wards in Acute Hospitals, a gyhoeddwyd yn 2014, yn ategu’r farn hon.

 

24. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael copi o’r Canllaw i Ddefnyddwyr y System Hanfodion Gofal: Offeryn Aciwtedd a Dibyniaeth ym maes Nyrsio Acíwt i Oedolion. Mae’n cynnwys dangosyddion ansawdd gofal i’w defnyddio ar lefel leol y gellir eu cysylltu â materion staffio nyrsys, fel arweiniad, lefelau’r sefydliadau nyrsio, y cymysgedd o sgiliau, a hyfforddiant a datblygiad staff. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon ar y cyd â’r wybodaeth am aciwtedd a dibyniaeth i helpu i bennu’r gofynion staffio ar wardiau.

 

Y ddyletswydd o dan adran 10A(1)(b) sy’n berthnasol i wardiau i oedolion sy’n gleifion mewnol mewn ysbytai acíwt yn unig

 

25. Os caiff y Bil ei basio, mae Llywodraeth Cymru’n credu y byddai’n briodol rhoi’r ddyletswydd hon ar waith mewn un lleoliad yn gyntaf a gwerthuso ei effaith yn ofalus cyn ystyried rhoi dyletswydd debyg ar waith mewn lleoliadau eraill.

 

26. Fodd bynnag, mae angen gwahaniaethu rhwng ward acíwt ac ysbyty acíwt. Pe bai’r Bil yn cael ei basio, dylid deddfu ar gyfer wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt ar gyfer oedolion, yn hytrach nag ysbytai acíwt, oherwydd gall ysbyty acíwt fod yn darparu gwasanaethau eraill nad ydynt yn rhai acíwt hefyd. Mae cyfle i egluro hyn y canllawiau a gyhoeddir, drwy ddiffinio’r termau a ddefnyddir, fel sy’n ofynnol yn y Bil. Fel arall, byddai modd cyflwyno gwelliant i nodi’r diffiniadau allweddol hyn ar wyneb y Bil. Hwn yw’r opsiwn a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynnwys mewn canllawiau i’w cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddarpariaeth ynghylch cyhoeddi i gleifion wybodaeth am niferoedd, swyddogaethau a chyfrifoldebau staff nyrsio ar ddyletswydd o dan adran 10A(5)(g)

 

27. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn sicrhau bod data ar gael i gleifion drwy Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol. Gwefan a luniwyd yn benodol i rannu data am berfformiad y GIG yng Nghymru mewn modd tryloyw yw hon, er mwyn i’r cyhoedd gael gwybod am yr hyn sy’n digwydd ac er mwyn iddynt hybu a chydnabod gwelliant. Mae’r wefan yn darparu graffiau a siartiau hawdd eu defnyddio a’u deall, ynghyd ag esboniadau manwl, i gyflwyno data am ansawdd a diogelwch GIG Cymru gan y byrddau iechyd, yr ysbytai a’r sector gofal sylfaenol.

 

28. Ar hyn o bryd, mae’r wefan yn cyhoeddi data ar lefel ysbyty acíwt lleol am gyfres o ddangosyddion ynghylch y gyfradd marwolaethau ac ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol am haint a gafwyd yn yr ysbyty a lefelau salwch y staff. Mae’r wefan hefyd yn cyhoeddi data am nifer y nyrsys fesul gwely sydd ar gael, gan nodi “[y]ng ngoleuni adroddiadau diweddar, ymddengys yn glir fod lefelau staff nyrsio ar wardiau yn bwysig i sicrhau y gellir rhoi’r ansawdd cywir o ofal i gleifion. Yn unol â hynny, mae GIG Cymru yn rhoi mwy o sylw i'r mater hwn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu 'cyfrifiannell' ddiwygiedig (h.y. yr offeryn aciwtedd ar gyfer oedolion sy’n gleifion mewnol ar wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt) er mwyn helpu i sicrhau bod lefelau staff nyrsio yn cyfateb i anghenion y cleifion ar wardiau acíwt mewn ysbytai.

 

29. Wrth bennu (drwy ganllawiau) y gofynion cyhoeddi er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 10A(1)(b), mae Llywodraeth Cymru’n credu ei bod yn bwysig bod y wybodaeth yn ystyrlon i gleifion ac i deuluoedd. Byddai gwybodaeth am ‘fesurau ansawdd y profiad’, er enghraifft, yn llawer mwy perthnasol i gleifion fel modd o sicrhau ansawdd.

 

Y gofyniad i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn cyhoeddi canllawiau o dan adran 10A(8) a fewnosodir gan adran 2(1)

 

30. Mae’n bolisi safonol gan Lywodraeth Cymru i ymgynghori â rhanddeiliaid a dinasyddion cyn cyhoeddi canllawiau newydd. Drwy ymgynghori, mae’n helpu Llywodraeth Cymru i ddeall sut y gallai deddf, polisi neu ganllawiau effeithio ar bobl Cymru. Mae hefyd yn ei helpu i ddod i wybod am farn pobl Cymru, ac mae cyfraniad y dinasyddion yn helpu i wella syniadau ac i siapio ein gwaith i sicrhau bod ein polisïau’n fwy effeithiol.

 

31. Pan fydd yn lansio ymgynghoriad newydd, bydd Llywodraeth Cymru’n darparu’r dogfennau perthnasol i sefydliadau ac unigolion â diddordeb ym maes yr ymgynghoriad.

 

Monitro’r gofynion a nodir yn adran 10A(9) a fewnosodir gan adran 2(1)

 

32. Mae adran 10A(9) o’r Bil yn awgrymu y gallai Fframwaith Cyflawni’r GIG fod yn addas at ddibenion monitro’r Bil. Mae Fframwaith Cyflawni’r GIG yn egluro’r blaenoriaethau cyflawni ac mae’n cydweddu â pholisi’r Gweinidog a’r angen i godi safonau a gwella canlyniadau. Fodd bynnag, nid yw’r Fframwaith ar ei ffurf bresennol yn ateb y gofynion monitro a nodir yn y Bil, ac felly byddai angen ei addasu’n sylweddol er mwyn iddo fod yn addas at y diben hwnnw.

 

Y gofyniad i bob un o gyrff y gwasanaeth iechyd gyhoeddi adroddiad blynyddol o dan adran 10A(10)

 

33. Cymerir bod rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru i adrodd am yr adolygiad o’r Bil yn adran 3 o reidrwydd yn seiliedig ar y gofynion i’r Byrddau Iechyd Lleol ac i Ymddiriedolaethau’r GIG gyhoeddi’u hadroddiadau blynyddol eu hunain (10A(10)). Fodd bynnag, er mwyn rhoi trefn adrodd o’r fath ar waith, byddai angen iddi gydweddu â’r systemau a’r cylchoedd adrodd sydd eisoes ar waith. Ar hyn o bryd, mae pob un ohonynt yn gysylltiedig â chylch blynyddol, gyda’r prif Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi a’i gyflwyno mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyn diwedd mis Medi bob blwyddyn.

 

34. Mae adran 10A(1) yn cynnwys cymysgedd o rwymedigaethau adrodd a chynllunio a fyddai, o dan drefn fusnes safonol y Byrddau Iechyd Lleol, yn cael eu cyflawni drwy gyfrwng gwahanol gyhoeddiadau, naill ai drwy’r Adroddiad Blynyddol neu drwy Gynllun Tymor Canolig Integredig. Mae’r naill a’r llall yn dilyn cylchoedd blynyddol, ond rhaid cwblhau’r Adroddiad Blynyddol erbyn diwedd mis Medi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol a’r Cynllun Tymor Canolig Integredig cyn diwedd mis Mawrth ar ôl y cyfnod cynllunio nesaf.

 

35. Pe na bai modd i Fwrdd Iechyd Lleol gynnwys unrhyw ofyniad newydd i baratoi adroddiad o fewn y systemau adrodd a chyhoeddi presennol, byddai’n arwain o reidrwydd at lwyth gwaith a chostau ychwanegol, gan wyro adnoddau oddi wrth ofalu am gleifion. Yn ogystal, o gyflwyno gofynion adrodd newydd ar wahân ar gyfer un grŵp o staff clinigol, gallai atgyfnerthu dull o fynd i’r afael â staffio sy’n seiliedig ar seilo. Mae hynny’n mynd yn groes i gyfeiriad cyffredinol y gwasanaethau amlddisgyblaeth integredig a’r adroddiadau integredig.

 

Y gofyniad i Weinidogion Cymru adolygu’r ffordd y mae’r Ddeddf yn gweithredu a’i heffeithiolrwydd o dan adran 3

 

36. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn awgrymu nifer o gyfryngau sydd eisoes yn bodoli er mwyn adrodd am y modd y mae’r Bil yn cael ei weithredu a’i effeithiolrwydd, a hynny i helpu i leihau’r baich gweinyddol ar gyrff y gwasanaeth iechyd. Mae’r rhain yn cynnwys Fframwaith Cyflawni’r GIG a’r Datganiad Ansawdd Blynyddol. Fodd bynnag, nid yw’r dulliau adrodd hyn yn cydweddu’n llwyr â gofynion adran 3 o’r Bil ac felly byddai angen eu haddasu. Er enghraifft:

 

·         Mae Fframwaith Cyflawni’r GIG yn amlinellu’r prosesau sydd ar waith i fonitro cynnydd ac i ddarparu cymorth ac ymyrraeth yn ôl yr angen. Dyrannu a defnyddio adnoddau (staff ac arian) yw un o’r meysydd sy’n rhan o’r Fframwaith. Nid yw’r platfform hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ddarparu adroddiadau i’r cyhoedd, ond mae’n casglu’r data sydd eu hangen i ategu’r dangosyddion a nodir yn adran 3(5), ac eithrio goramser a nyrsys asiantaeth/cronfa. Nid yw’r data’n cael eu darparu i Lywodraeth Cymru ar lefel ward ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf o’r data (ond nid y cyfan) yn cael eu hadrodd ar lefel ysbyty ar gyfer safleoedd acíwt mawr. I ateb gofynion adrodd adran 3 o’r Bil, byddai angen casglu data ychwanegol a byddai angen eu dadansoddi’n fanylach ar lefel ward. Byddai hynny’n gostus ac yn galw am lawer o adnoddau.

 

·         Bwriedir i’r Datganiad Ansawdd Blynyddol amlinellu’r cynnydd a wneir gan y byrddau iechyd a sefydliadau eraill y GIG drwy gymharu data ac adborth cleifion â’r blynyddoedd blaenorol. Cyhoeddir y datganiadau hyn gan y Byrddau Iechyd Lleol ar ffurfiau a addaswyd ar gyfer amgylchiadau lleol ac nid oes iddynt sylfaen statudol. Felly, ni fyddent yn darparu fframwaith addas i adrodd am gynnydd yn erbyn y Bil hwn.

 

·         Fframwaith Cynllunio’r GIG yw’r system a ddefnyddir gan y Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau i ymateb i bwysau o ddydd i ddydd, heb golli golwg ar y modd y maent yn cynllunio i alinio gwasanaethau allweddol, staff, cyllid a’r cyhoedd i gyflawni’r canlyniadau arfaethedig ar gyfer y poblogaethau a wasanaethir ganddynt dros y tymor canolig (tair blynedd). Mae’r templed presennol ar gyfer y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig a baratoir gan y Byrddau Iechyd Lleol eisoes yn cynnwys gwybodaeth fel y newid cyffredinol yn y lefelau nyrsio a’r anawsterau recriwtio. Mae’n bosibl y byddai modd addasu’r templed ymhellach i gasglu gwybodaeth a fyddai’n olrhain y camau a gymerir gan Fwrdd Iechyd Lleol i gyflawni nodau’r Bil, ond byddai angen newid y fframwaith yn sylweddol a byddai costau pellach ynghlwm wrth wneud hynny hefyd.

 

37. Mae Llywodraeth Cymru’n symud tuag at Fframwaith Canlyniadau ar gyfer y GIG fel dull o fesur perfformiad. Bydd Fframwaith Canlyniadau GIG Cymru 2015/16 yn dangos y gwelliant blynyddol o ran iechyd a lles dinasyddion Cymru. Set o ganlyniadau a dangosyddion ar gyfer poblogaeth Cymru yw’r Fframwaith Canlyniadau, ac fe’i hategir gan Fframwaith Cyflawni’r GIG fel set o fesurau a bennir i ganolbwyntio ar yr hyn a gyflawnir gan y GIG yn ystod y flwyddyn. Nodau’r Fframwaith Canlyniadau yw:

 

·         Pennu llwyddiant y GIG o ran cynllunio a darparu gofal diogel o safon;

·         Pennu llwyddiant y GIG o ran cynllunio a darparu gwasanaethau i gynorthwyo’r cyhoedd i sicrhau bod eu hiechyd a’u lles yn dda ac yn parhau i fod yn dda;

·         Bod yn sylfaen ar gyfer cyfeiriad iechyd a gofal yn y dyfodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a’r cyhoedd.

 

38. Bydd y Fframwaith Canlyniadau’n cael ei fesur bob blwyddyn a bydd adroddiad yn cael ei baratoi ar lefel Cymru, a’i ddadansoddi fesul bwrdd iechyd/ymddiriedolaeth fel y bo’n briodol. Bydd Fframwaith Canlyniadau a Chyflawni’r GIG yn sicrhau bod modd adrodd yn well am eithriadau a bydd yn defnyddio ystod o wahanol ddangosyddion y gellir eu hasesu i bennu ‘pwyntiau sy’n destun pryder’ y bydd angen rhoi sylw pellach iddynt a’u hadolygu. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o lefelau’r staff nyrsio.

 

39. Mae’r Bil, fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn peri iddi fod yn ofynnol i unrhyw adroddiad gan Weinidogion Cymru gynnwys cynnydd yn erbyn rhestr o ddangosyddion yn adran 3(5). Mae hyn yn dibynnu ar nifer o systemau gwybodaeth reoli ar wahanol lefelau. Gall y systemau hyn fod yn anghyson a gall fod angen cyflawni asesiad llawn i sicrhau bod y wybodaeth yn gyson ac i sicrhau ei hansawdd. Mae’r cysylltiad achosol rhwng y dangosyddion hyn a lefelau diogel staff nyrsio’n dal i fod yn destun pryder pwysig hefyd.

 

Amlder yr adroddiadau

 

40. Mae llawer o’r dulliau adrodd yn rhai blynyddol, yn hytrach na rhai dwy flynedd fel y nodir yn y Bil. Pe bai dull adrodd newydd yn cael ei ddatblygu a’i fod yn adrodd bob dwy flynedd, ni fyddai’n gyson â’r cylchoedd cynllunio ac adrodd eraill. Mae Llywodraeth Cymru’n credu y gallai Fframwaith Cynllunio’r GIG fod yn ddull priodol i’r Byrddau Iechyd Lleol ei ddefnyddio i ddangos sut y maent yn cydymffurfio â’r Bil fel rhan o gylch cynllunio treigl tair blynedd, pe bai gofynion y Bil yn cael eu diwygio, a hynny am y rhesymau a ganlyn:

 

·         Gallai’r Byrddau Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau gael cyfnod rhagarweiniol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llwyr â gofynion y Bil ar ôl i’r canllawiau gael eu cyhoeddi.

 

·         Mae Cynlluniau Tymor Canolig Integredig eisoes yn cynnwys data am lefelau nyrsio i gefnogi’r gwaith cynllunio dros gyfnod treigl o dair blynedd. Byddai hyn hefyd yn adlewyrchu’r ffordd y mae Bwrdd Iechyd Lleol yn paratoi ac yn cynllunio i gydymffurfio â’r Bil.

 

·         Byddai’n caniatáu cyfnod rhagarweiniol i lunio canllawiau newydd a’u rhoi ar waith, gan ymdebygu i’r canllawiau presennol ‘Canllawiau Egwyddorion Staff Nyrsio Cymru’ lle y cafwyd cyfnod rhagarweiniol o dair blynedd.

 

41. Gallai Fframwaith Cynllunio’r GIG ddarparu cyfnod rhagarweiniol er mwyn i’r Byrddau Iechyd Lleol ymgyfarwyddo â gofynion y canllawiau, a gallai fod yn rhan o’r gwaith mwy hirdymor i gasglu data i gefnogi dull adrodd wedi’i addasu.

 

Effaith y canllawiau presennol

 

Y canllawiau presennol

 

42. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cydnabod y £10 miliwn a roddwyd i’r Byrddau Iechyd Lleol i gynyddu nifer y nyrsys ar wardiau meddygol a llawfeddygol mewn ysbytai a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2013 ar sail gylchol. Dyrannwyd yr arian ar sail anghenion y boblogaeth a wasanaethir gan ddefnyddio fformiwla Townsend. Dyma’n union sut y mae angen pennu lefelau staffio diogel, gan y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG, er mwyn iddynt ystyried amgylchiadau sy’n newid yn ôl y gofyn.

 

43. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi rhywfaint o effaith egwyddorion y Prif Swyddog Nyrsio ar lefelau’r staff nyrsio. Mae paragraff 174 ar dudalen 40 yn datgan: “Mae cyflwyno’r egwyddorion cenedlaethol wedi arwain at ddarlun gwell o’r lefelau staff nyrsio ar draws wardiau acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion yn GIG Cymru. Roedd yr egwyddorion yn cynnwys yr angen am gael un nyrs gofrestredig i bob saith claf bob dydd, ac mae’r rhan fwyaf o ardaloedd bellach yn cydymffurfio â hyn”. Mesur interim yw egwyddorion y Prif Swyddog Nyrsio i’w defnyddio hyd nes bod modd rhoi’r offeryn aciwtedd a dibyniaeth ar waith yn llwyr ac nid ydynt yn pennu cymhareb staffio orfodol.

 

44.  Mae egwyddorion y Prif Swyddog Nyrsio a’r Cyfarwyddwyr Nyrsio, y cytunwyd arnynt ym mis Mai 2012, wedi effeithio’n sylweddol ar lefelau’r staff nyrsio. Maent yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yn y maes ac maent yn sicrhau bod modd llunio dull ar lefel leol i lywio’r gwaith o ddyrannu sefydliadau nyrsio. Er bod y camau a gymerwyd i fodloni egwyddorion o’r fath wedi cael eu monitro, tybiwyd bob amser y byddai angen mynd ati fesul cam i gydymffurfio â nhw. Mae’r arian ychwanegol a gyhoeddwyd i gefnogi gwaith ym maes lefelau staff nyrsio mewn ysbytai wedi hwyluso’r camau hynny. Gall y GIG yng Nghymru ddangos lle y mae cynnydd wedi’i wneud, hyd yn oed yn y farchnad anodd bresennol ar gyfer nyrsys cofrestredig.

45.Mae gwaith y Prif Swyddog Nyrsio’n seiliedig ar ganllawiau diweddaraf NICE, Safe staffing for nursing in adult inpatient wards in acute hospitals. Nid yw’r canllawiau hyn yn pennu cymhareb staffio benodol. Yn y ddogfen cwestiynau cyffredin sy’n ategu’r canllawiau, mae NICE yn datgan

“The Safe Staffing Advisory Committee reviewed the best available evidence and concluded there is no single nursing staff to patient ratio that can be safely applied across the wide range of acute adult in-patient wards in the NHS.”

Mae’r canllawiau presennol a gyhoeddwyd gydag offeryn aciwtedd Cymru eisoes yn ymgorffori llawer o gyngor NICE.

46.  Mae’n rhy gynnar i ddweud pa effaith y mae canllawiau NICE wedi’i chael ar GIG Lloegr.

Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth a chanllawiau

 

47.  Mae Llywodraeth Cymru’n credu bod y weithdrefn gadarnhaol yn briodol ar gyfer y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn adran 10A(3) i estyn y ddyletswydd i gynnal cymarebau staff gofynnol i leoliadau eraill. O estyn y ddyletswydd hon, gallai effeithio’n sylweddol ar y GIG o ran adnoddau staff ac o ran costau gweinyddol/gweithredol. Byddai angen ystyried yn ofalus sut y gallai unrhyw ddyletswydd o’r fath weithio’n ymarferol o ystyried nodweddion penodol y GIG yng Nghymru.

 

48.  Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gyflwyno unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y pwerau hyn yn y dyfodol hyd y gellir ei ragweld. Byddai am adolygu pa mor effeithiol yw’r Bil mewn lleoliadau meddygol a llawfeddygol acíwt cyn ei gyflwyno mewn lleoliadau eraill, pe bai’r dystiolaeth yn cadarnhau bod angen gwneud hynny.

 

Goblygiadau ariannol

 

Costau cychwynnol

 

Canllawiau newydd neu ddiwygio canllawiau i adlewyrchu darpariaethau’r Bil

 

49. Yn y Memorandwm Esboniadol, amcangyfrifir mai £45,000 fydd y gost untro i ddiwygio’r canllawiau a chyfathrebu dros gyfnod o dri mis. Mae’r wybodaeth sy’n ategu’r swm hwn yn seiliedig ar swm amcangyfrifedig a ddefnyddiwyd ar gyfer Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 lle y cafodd canllawiau’u diweddaru i adlewyrchu’r camau i symud o ddyletswydd ariannol flynyddol i ddyletswydd ariannol dreigl dair blynedd. Cyhoeddwyd y canllawiau hyn ar gyfer y Byrddau Iechyd Lleol yn unig.

 

50. Fodd bynnag, byddai’r gwaith o baratoi’r canllawiau a gynigir o dan y Bil yn llawer mwy cymhleth. Byddai angen dod â chanllawiau ynghyd ar sail arferion gorau a thystiolaeth gadarn. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan bod “[rh]aid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau, a bydd yn rhaid iddi ymgynghori arnynt gydag arbenigwyr a’r sefydliadau hynny yr effeithir arnynt gan yr arweiniad hwn”. Felly, bydd angen datblygu’r canllawiau gyda chyfraniad rhanddeiliaid, lleygwyr ac arbenigwyr. Mae hwn yn newid sylweddol o’i gymharu â’r canllawiau presennol sy’n cefnogi’r offeryn aciwtedd ar gyfer oedolion sy’n gleifion mewnol, sy’n ganllaw ‘sut i wneud’.

 

51. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan mai “[b]wriad y Bil hwn yw y bydd y canllawiau statudol yn seiliedig ar y canllawiau a gyhoeddwyd gan y Prif Swyddog Nyrsio, sy’n ymwneud â defnyddio’r dulliau presennol o gynllunio’r gweithlu ar sail aciwtedd a dibyniaeth, a hefyd barn broffesiynol”. Fodd bynnag, nid yw’r dull trionglog hwn yn caniatáu ar gyfer pennu cymhareb ofynnol. Mae’r dull trionglog presennol yn caniatáu hyblygrwydd mewn cyd-destun lleol. Nid yw’n cael ei ddisgrifio yn y Canllaw i Ddefnyddwyr y System Hanfodion Gofal: Offeryn Aciwtedd a Dibyniaeth ym maes Nyrsio Acíwt i Oedolion oherwydd nad yw’n pennu cymhareb ofynnol ar gyfer niferoedd y staff. Os caiff cymhareb staffio benodol ei phennu, bydd angen cynnwys mwy o fanylion ac eglurhad yn y canllawiau nag a geir yn y dogfennau presennol. Am y rheswm hwn, mae’n ymddangos bod y model a fabwysiadwyd gan NICE yn briodol, lle y mae’r llenyddiaeth yn cael ei hadolygu a lle y mae panel yn penderfynu ar gynnwys y canllawiau. Gallai canllawiau o’r fath gynnwys argymhellion ynghylch lefelau diogel staff nyrsio ar wardiau i oedolion sy’n gleifion mewnol mewn ysbytai acíwt, ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael; pennu’r ffactorau trefniadol a’r ffactorau rheoli sy’n angenrheidiol i gefnogi lefelau diogel o staff nyrsio; a phennu dulliau priodol o fesur cydymffurfiaeth â’r canllawiau.

 

52. Mae’r gofyniad i’r canllawiau “gynnwys darpariaeth i sicrhau na chaiff y cymarebau gofynnol arfaethedig eu defnyddio mewn gwirionedd fel terfyn uwch” yn cyflwyno cysyniad newydd nad yw wedi’i gynnwys yn y canllawiau presennol. Nid oes sylfaen dystiolaeth yn y llenyddiaeth sy’n cynnig dull neu fodd o wneud hyn, ac felly byddai angen cyflawni gwaith pellach ar yr agwedd hon o’r canllawiau. Nid yw’n bosibl pennu’r gost heb gyflawni dadansoddiad manwl.

 

Newidiadau i’r systemau TG at ddibenion adrodd

 

53. Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn cydnabod unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r gofyniad i adrodd yn erbyn y rhestr o ddangosyddion a ddisgrifir yn adran 3(5)(a) – (i) o’r Bil. Mae’n awgrymu na fydd unrhyw gost ychwanegol o ran gweinyddu TGCh i roi’r adran hon ar waith.

 

54. Mae llawer o’r dangosyddion yn adran 3(5)(a-i) ar gael ar lefel ysbyty neu Fwrdd Iechyd Lleol. Gwybodaeth reoli’r Bwrdd Iechyd Lleol yw hon, ac fe’i cedwir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

 

55. Mae ymgynghoriad cychwynnol â’r GIG yng Nghymru ynghylch argaeledd y dangosyddion ar lefel ward yn dangos bod gwahaniaethau o ran y ffordd y mae pob sefydliad yn casglu ac yn prosesu’r data y byddai eu hangen i ddarparu’r dangosyddion hyn.

 

·           Mae un Bwrdd Iechyd Lleol yn casglu’r holl ddata ar lefel ward. Fodd bynnag, mae ei ddata ynghylch bodlonrwydd y cleifion a’r cyhoedd â’r gwasanaethau yn cael eu casglu gan ddefnyddio system ar bapur.

·           Mae dau Fwrdd Iechyd Lleol yn casglu’r rhan fwyaf o’r data ar lefel ward, ond nid cyfraddau marwolaethau, cyfraddau aildderbyn na heintiau a gafwyd yn yr ysbyty.

·           Mae un Bwrdd Iechyd Lleol yn casglu’r rhan fwyaf o’r data ar lefel ward, ond nid cyfraddau marwolaethau na chyfraddau aildderbyn.

·           Mae un Bwrdd Iechyd Lleol yn casglu data ar lefel ward ar gyfer cyfraddau aildderbyn, heintiau a gafwyd yn yr ysbyty, a nifer a difrifoldeb wlserau pwyso a gafwyd yn yr ysbyty, ond nid ar gyfer y dangosyddion eraill. Dywedodd y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw gwybodaeth o’r fath “ar gael ar lefel ward. Mae rhywfaint ohoni ar gael, mae rhywfaint ohoni ar gael ar lefel maes gwasanaeth yn unig ac mae’n cael ei chasglu mewn gwahanol ffyrdd a chan ddefnyddio gwahanol systemau”.

 

56. O gasglu’r holl ddangosyddion ar lefel ward, byddai’n rhoi baich sylweddol ar y GIG yng Nghymru o ran adnoddau staff i addasu systemau Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i dderbyn data ar lefel ward, i fewnbynnu’r data ychwanegol ac i greu a dadansoddi adroddiadau sy’n seiliedig ar y data hyn.

 

Casglu data

 

57. Mae’r Memorandwm Esboniadol (paragraff 218) yn datgan bod gan y Byrddau Iechyd Lleol systemau rheoli data ar lefel ward, ond nid yw hyn yn wir ar gyfer pob un o’r dangosyddion, fel y trafodir uchod ym mharagraff 55.

 

58. Mae staff y Bwrdd Iechyd Lleol hefyd wedi cadarnhau na all y systemau TG presennol baratoi adroddiad sy’n integreiddio’r dangosyddion a restrir yn adran 3(5) (a) – (i) o’r Bil ar ffurf un adroddiad.

 

Newidiadau TGCh

 

59. Ar hyn o bryd, nid oes un datrysiad wedi’i bennu er mwyn casglu’r holl ddata sy’n ofynnol ar gyfer y dangosyddion a restrir yn adran 3(5) (a-i) o’r Bil ar lefel ward a’u coladu mewn un adroddiad. Felly, byddai angen cyflawni gwaith cwmpasu a datblygu i greu ffynonellau gwybodaeth newydd. Gall fod angen dylunio ac adeiladu cronfa ddata benodol i gadw’r data hyn; ac addasu systemau TG presennol y GIG a’r prosesau i sicrhau ansawdd y data sy’n cael eu bwydo i mewn i unrhyw ddatrysiadau newydd gan y Byrddau Iechyd Lleol. Byddai angen cyflawni dadansoddiad i ystyried y gofynion o ran gwybodaeth a’r ffordd orau o’u bodloni. Heb ddadansoddiad o’r fath, mae’n anodd iawn amcangyfrif costau rhoi datrysiad ar waith a fydd yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i fonitro’r dangosyddion.

 

60. Hefyd, bydd yn bwysig ystyried unrhyw ffactorau eraill a allai effeithio ar gynnydd yn erbyn y dangosyddion, nid dim ond lefelau’r staff nyrsio.

 

Yr effaith ar y gweithlu

 

61. Mae’n debygol y bydd cymhareb orfodol yn effeithio ar y gweithlu nyrsio; fodd bynnag, nid yw’n bosibl amcangyfrif cost yr effaith hon. Mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn cynnig nifer y nyrsys y mae angen eu hyfforddi bob blwyddyn ar sail eu gofynion i ddiwallu anghenion iechyd eu poblogaethau. Ni all Llywodraeth Cymru ragfynegi’r lefelau nyrsio y bydd eu hangen ar y Byrddau Iechyd Lleol na niferoedd y nyrsys cofrestredig a fydd ar gael i GIG Cymru. Felly, nid yw’n bosibl amcangyfrif y gost.

 

Costau parhaus

 

Adolygu’r canllawiau ar ôl y flwyddyn gyntaf a bob dwy flynedd ar ôl hynny

 

62. Mae Llywodraeth Cymru’n cytuno â’r costau adolygu amcangyfrifedig a nodir yn y Memorandwm Esboniadol, sef £37,500 dros gyfnod o bum mlynedd. Fodd bynnag, er y bydd y canllawiau’n cael eu hadolygu bob dwy flynedd, gan fod amgylchedd GIG Cymru’n newid yn gyflym ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd angen cyflawni adolygiad sylweddol o’r canllawiau ar ôl y pum mlynedd cyntaf. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys rhoi cynlluniau ad-drefnu gwasanaeth rhanbarthol ar waith, mabwysiadu egwyddorion gofal iechyd darbodus, datblygu swyddi uwch-ymarferwyr newydd, a chyflwyno Cynllun Gofal Sylfaenol newydd, yn ogystal â newidiadau mewn meysydd eraill.  Felly, mae’n debygol y bydd y gweithlu a’r gofynion staffio’n wahanol iawn ymhen pum mlynedd. Gan fod rhaid i’r canllawiau hyn bennu cymarebau penodol a fydd yn gorfod adlewyrchu’r newidiadau hyn, yn ogystal â’r sylfaen dystiolaeth sy’n cynyddu’n barhaus yn y maes hwn, tybir ei bod yn debygol y bydd angen cyflawni adolygiad sylweddol. Eto, cynigir y dylid gwneud hynny gan ddefnyddio’r model a ddefnyddir gan NICE sy’n manteisio ar arbenigedd ychwanegol ac sy’n defnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf o gyd-destun GIG Cymru. Byddai’n rhaid gwario rhagor o arian pe bai Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r dull hwn yn ôl y disgwyl.

 

Gweinidogion Cymru’n cyhoeddi adroddiad am y modd y mae’r Ddeddf yn gweithredu a’i heffeithiolrwydd

 

63. Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn cydnabod y gost i Lywodraeth Cymru o ran adrodd. Mae’n cymryd y gellir defnyddio Fframwaith Cyflawni’r GIG neu’r Datganiad Ansawdd Blynyddol fel dull adrodd ym mharagraffau 223 a 224.

 

64. Mae Llywodraeth Cymru’n paratoi i lansio Fframwaith Canlyniadau’r GIG, wedi’i ategu gan y Fframwaith Cyflawni Ansawdd Blynyddol, ym mis Mawrth 2015. Diben Fframwaith Canlyniadau’r GIG a’r Fframwaith Cyflawni Ansawdd yw mesur yr hyn a gyflawnir ar draws maes ehangach na dim ond yr ysbytai acíwt gan adlewyrchu strwythur ac atebolrwydd Byrddau Iechyd Cymru. Mae’n dechrau canolbwyntio ar iechyd a lles ar draws y GIG yn ei gyfanrwydd ac ar draws y partneriaid ehangach. Bydd y GIG yn gweithio’n unol â’r Fframwaith Canlyniadau a Chyflawni Ansawdd o fis Ebrill 2015. Mae Fframwaith Cyflawni’r GIG yn cynnwys adroddiadau am rai o’r dangosyddion a restrir yn adran 3(5)(a) – (i) o’r Bil i ryw raddau, sef dangosyddion marwolaethau, cyfraddau aildderbyn ar gyfer cyflyrau cronig, heintiau a gafwyd mewn lleoliadau gofal iechyd, wlserau pwyso (dim ond y nifer), bodlonrwydd y cleifion a’r cyhoedd, ac absenoldebau oherwydd salwch. Gall fod yn bosibl addasu Fframwaith Canlyniadau’r GIG i gyhoeddi gwybodaeth am y dangosyddion eraill, ond bydd yn dal i fod angen buddsoddiad ac adnoddau ychwanegol i sicrhau ansawdd y data ac i baratoi adroddiad ar y ffurf ofynnol.

 

65. Fel yr eglurwyd eisoes yn y papur tystiolaeth hwn, mae nifer o ddulliau cynllunio ac adrodd y byddai modd eu defnyddio i adrodd am y modd y mae’r Bil yn gweithredu a’i effeithiolrwydd. Fodd bynnag, nid yw pob dull yn adlewyrchu holl ofynion adran 3(5). Byddai angen pennu costau addasu un o’r dulliau adrodd presennol neu greu platfform adrodd newydd i gyflawni’r ddyletswydd adrodd fel y mae wedi’i drafftio ar hyn o bryd. Byddai’r costau parhaus yn cynyddu ymhellach pe bai’r platfform adrodd yn cael ei addasu i ystyried lleoliadau newydd a bennir drwy reoliadau o dan adran 10A(3).